Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (17) v3 |
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog (60 munud) |
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud) Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
|
3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Y Rhaglen Lywodraethu (60 munud) |
4. Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Flaenau Gwent (45 munud) |
5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Ty: Cydraddoldebau (45 munud) |
6. Dadl ar Ddiwygio Gwasanaethau Cyhoeddus (60 munud) NDM4807 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’i hagenda ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Dileu “Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â’i hagenda” a rhoi yn ei le “Yn nodi agenda Llywodraeth Cymru” Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu wrth ddiffyg tryloywder cyhoeddiadau blaenorol Llywodraeth Cymru am ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus. Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw am ddadansoddiad wedi’i gostio’n llawn o agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus. Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus mewn modd sy’n dod â’r trydydd sector annibynnol a’r sector cyhoeddus ynghyd, gyda’r dinesydd a’r gymuned yn y canol, gan ymateb i anghenion y cyhoedd a gan leihau'r galw ar wasanaethau eraill drwy ddull gweithredu sy'n edrych ar y gwasanaeth cyfan a chyd-gynhyrchu. Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn credu y dylai agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus gael ffocws clir ar leihau’r bwlch gwariant ar ysgolion rhwng Cymru a Lloegr. Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn nodi â phryder ddull gweithredu anghyson Llywodraeth Cymru o ran cydweithio wrth gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus. Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn gresynu nad yw agenda Llywodraeth Cymru ar gyfer diwygio gwasanaethau cyhoeddus wedi cael ei gwneud yn glir ac yn credu y dylai ganolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach nag ar y broses o ddiwygio. Gwelliant 8 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig: Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau cyllid teg er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus yn effeithiol. Dogfennau Ategol:
Datganiad ar lafar gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau ar
21 Mehefin 2011
|
Cyfnod Pleidleisio Daeth y cyfarfod i ben am |
Bydd y Cynulliad yn cwrdd eto yn y Cyfarfod Llawn am 13:30 Dydd Mercher, 28 Medi 2011